top of page

Mae gennyf brofiad o gyfieithu a phrawf-ddarllen dogfennau o bob maint mewn amgylchedd llywodraeth leol ers 1998 ac fel cwmni llawrydd ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat, iechyd a gwirfoddol ers 2016. Mae'r gwaith a wnaed wedi amrywio o negeseuon trydar a chyfryngau cymdeithasol byr i ddogfennau cymhleth o 50,000 a mwy o eiriau.

Rwyf yn aelod o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru ers Mehefin 2023. โ€จโ€จ

 

Defnyddir meddalwedd cof cyfieithu, a rhaglenni sillafu a gramadeg o fewn Word, er mwyn sicrhau cywirdeb a chysondeb o unrhyw waith a wneir. Mae terminoleg o ran meysydd pwnc penodol megis materion cyfreithiol, technegol neu iechyd hefyd yn cael eu hymchwilio’n drylwyr ar-lein, eto er cywirdeb a chysondeb. โ€จ

 

Gellir derbyn ffeiliau mewn fformatau Word, Excel, PowerPoint a Publisher. Mae dogfennau PDF a ffeiliau HTML hefyd yn gallu cael eu derbyn, ond gallant gymryd mwy o amser i ddelio â nhw. Mae croeso i chi gysylltu os yw’ch anghenion yn cynnwys fformatau eraill.

Fel unig gyflogai, rwy'n cymryd gofal mawr i sicrhau bod safonau ansawdd yn cael eu cynnal wrth ddychwelyd gwaith.  Mae'r holl waith yn cael ei brawf-ddarllen cyn ei ddychwelyd.

Yn aml, mae angen gwaith cyfryngau cymdeithasol ar unwaith, ac felly mae'n rhaid gwneud y prawf-ddarllen yr un mor gyflym â’r cyfieithu. Efallai y bydd angen i ddogfennau mwy nid yn unig gael eu prawf-ddarllen ond hefyd eu fformatio er mwyn sicrhau bod y fersiwn Gymraeg yn cyfateb i'r Saesneg yn weledol a bod penawdau ar yr un dudalen, bod rhifau tudalen yn cyfateb i'r mynegai ac ati.

Mae hyn hefyd yn cynnwys sicrhau (drwy ymchwil a dilysu ar-lein) bod cyfeiriadau e-bost neu ddolenni tudalennau gwe, lle maent ar gael, yn cael eu gosod fel y fersiynau Cymraeg yn y cyfieithiad, a bod logos, os nad yn ddwyieithog i ddechrau, yn cael eu disodli gan yr hyn sy'n cyfateb i Gymraeg cywir, a all hefyd gynnwys chwiliadau ar-lein.

Gwneir hyn i gyd cyn anfon y gwaith yn ôl at y cleient.  Os yw'r cleient wedyn wedi cynllunio'r ddogfen yn graffigol, byddwn yn disgwyl i fersiwn prawf wedi'i gynllunio gael ei anfon yn ôl i wirio eto, rhag ofn y bydd unrhyw wallau damweiniol yn digwydd yn y cam dylunio.

Bydd y fersiynau terfynol yn cael eu dychwelyd yn yr un fformat ag y cawsant eu darparu, yn seiliedig ar y fformatau uchod, ar wahân i'r ffeiliau HTML a ddychwelir mewn dogfen Word er mwyn i'ch sefydliad eu defnyddio. โ€จ

 

Gwneir y gwaith cyfieithu cyn gynted â phosibl, ond os oes gennych derfynau amser penodol a byr, gellir cytuno arnynt o flaen llaw. Gellid gwneud gwaith dros y penwythnosau lle bo angen.โ€จโ€จ

 

 

Costau

 

โ€จ£60 fesul 1000 gair yw'r gyfradd gyfieithu safonol ac nid yw Cwmni2 yn ychwanegu unrhyw gostau prawf-ddarllen ychwanegol ar gyfer ei waith ei hun.  Mae croeso i chi gysylltu os oes angen i chi drafod prosiectau neu sefyllfaoedd penodol lle mae cyllidebau sefydlog yn bodoli.

Cyfieithu a Phrawf-ddarllen Cymraeg
Gradient
©2023 Cwmni2 Cedwir Pob Hawl / All Rights Reserved

Rhif cwmni / Company number: 10140626

bottom of page